Mae ein stiwdio yn cyfuno dyluniad cyfoes gydag ymarferoldeb gwych a’r dechnoleg ddiweddaraf i roi lleoliad delfrydol i chi ar gyfer sesiynau ymchwil.
Gall ystafell yr ymatebwyr ddarparu seddi i 10 o bobl mewn cynllun pedol i 12 o bobl mewn steil ystafell fwrdd. Mae aerdymheru a seddi bwced lledr yn rhoi cysur ychwanegol.
Mae ein hystafell arsylwi sy’n llawn o’r offer diweddaraf wedi ei hynysu rhag sain ac wedi ei lleoli y tu ôl i wydr un ffordd i sicrhau preifatrwydd eithaf. Mae yma seddau i hyd at 6 o bobl ac mae’n cynnwys yr holl offer clyweled diweddaraf yn ogystal ag oerydd i’r diodydd i’ch cadw’n effro ac yn llawn egni.
Mae gan y cyfleuster fandeang ‘wi-fi’ ac Ethernet drwyddynt felly mae cysylltu â’r rhyngrwyd yn hawdd. Mae dau deledu plasma enfawr hefyd ar gyfer cyflwyniadau ac ymchwil gweledol. Mae rheiliau arddangos sydd wedi eu gosod ar y waliau hefyd ar gael o amgylch yr ystafell ymatebwyr, sy’n ddelfrydol ar gyfer arddangos ysgogiadau gweledol.
Mae tîm y staff wedi eu hyfforddi yn llawn a byddant yn cymryd gofal o bopeth i sicrhau bod y cyfan yn rhedeg yn llyfn ac yn ddi-ymdrech i chi.
Ar ddiwedd pob set o grwpiau ymchwil, rhoddir DVD sain i’r cleientiaid a DVD fideo o bob sesiwn ymchwil i chi gael mynd â nhw i ffwrdd gyda chi.